16. Os bydd cig noeth yn newid ac yn troi'n wyn, dylai'r claf fynd at yr offeiriad.
17. Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur wedi troi'n wyn, bydd yr offeiriad yn cyhoeddi'r claf yn lân; yna bydd yn lân.
18. “Pan fydd gan rywun gornwyd ar ei groen, a hwnnw'n gwella,
19. a chwydd gwyn neu smotyn cochwyn yn dod yn lle'r cornwyd, dylai ei ddangos ei hun i'r offeiriad.
20. Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a'r blew ynddo wedi troi'n wyn, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; dolur heintus wedi codi yn lle'r cornwyd ydyw.
21. Ond os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a'i gael heb flew gwyn ynddo, a heb fod yn ddyfnach na'r croen ac wedi gwywo, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.
22. Os bydd yn lledu ar y croen, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n heintus.
23. Ond os bydd y smotyn yn aros yr un fath a heb ledu, craith y cornwyd ydyw, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân.
24. “Pan fydd gan rywun losg ar ei groen, a smotyn cochwyn neu wyn yng nghig noeth y llosg,
25. bydd yr offeiriad yn ei archwilio; ac os bydd y blew ynddo wedi troi'n wyn, a'r llosg yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, y mae dolur heintus wedi torri allan yn y llosg. Bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus.
26. Ond os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a'i gael heb flew gwyn yn y smotyn, a hwnnw heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen ac wedi gwywo, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.
27. Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd wedi lledu ar y croen bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus.