Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 13:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud,

2. “Pan fydd gan unrhyw un chwydd, brech neu smotyn ar ei groen a allai fod yn ddolur heintus ar y croen, dylid dod ag ef at Aaron yr offeiriad, neu at un o'i feibion, yr offeiriaid.

3. Bydd yr offeiriad yn archwilio'r dolur ar ei groen, ac os bydd y blew yn y dolur wedi troi'n wyn, a'r dolur yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, y mae'n ddolur heintus; wedi iddo ei archwilio, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 13