Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 13:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud,

2. “Pan fydd gan unrhyw un chwydd, brech neu smotyn ar ei groen a allai fod yn ddolur heintus ar y croen, dylid dod ag ef at Aaron yr offeiriad, neu at un o'i feibion, yr offeiriaid.

3. Bydd yr offeiriad yn archwilio'r dolur ar ei groen, ac os bydd y blew yn y dolur wedi troi'n wyn, a'r dolur yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, y mae'n ddolur heintus; wedi iddo ei archwilio, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan.

4. Os bydd y smotyn ar ei groen yn wyn, ond heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a'r blew ynddo heb droi'n wyn, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.

5. Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os gwêl yr offeiriad fod y dolur wedi aros yr un fath a heb ledu ar y croen, bydd yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod arall.

6. Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn ei archwilio eilwaith, ac os bydd y dolur yn gwywo a heb ledu ar y croen, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân; nid yw ond brech. Y mae'r claf i olchi ei ddillad, ac yna bydd yn lân.

7. Ond os bydd y frech yn lledu ar ei groen ar ôl iddo'i ddangos ei hun i'r offeiriad i'w gyhoeddi'n lân, y mae i'w ddangos ei hun i'r offeiriad eilwaith.

8. Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y frech wedi lledu ar y croen, bydd yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus.

9. “Pan fydd gan unrhyw un ddolur heintus, dylid dod ag ef at yr offeiriad.

10. Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd chwydd gwyn yn y croen a hwnnw wedi troi'r blew yn wyn, ac os bydd cig noeth yn y chwydd,

11. y mae'n hen ddolur yn y croen, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; ond ni fydd yn ei gadw o'r neilltu, gan ei fod eisoes yn aflan.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 13