Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 12:2-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Bydd gwraig sy'n beichiogi ac yn geni mab yn aflan am saith diwrnod, yn union fel y mae'n aflan yn nyddiau ei misglwyf.

3. Ar yr wythfed dydd enwaeder ar y bachgen.

4. Yna bydd y wraig yn disgwyl tri ar ddeg ar hugain o ddyddiau am buro ei gwaed; nid yw i gyffwrdd â dim sanctaidd nac i fynd i'r cysegr nes y bydd dyddiau'r puro trosodd.

5. Os bydd yn geni merch, yna bydd yn aflan am bythefnos, fel y mae yn ei misglwyf; bydd yn disgwyl chwech a thrigain o ddyddiau am buro ei gwaed.

6. “ ‘Pan fydd dyddiau'r puro am fab neu ferch trosodd, y mae i ddod at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod gydag oen gwryw yn boethoffrwm a chyw colomen neu durtur yn aberth dros bechod.

7. Bydd yntau'n eu cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD i wneud cymod drosti, ac yna bydd yn lân oddi wrth ei gwaedlif. Dyma'r ddeddf ynglŷn â gwraig yn geni mab neu ferch.

8. “ ‘Os na all fforddio oen, gall ddod â dwy durtur neu ddau gyw colomen, y naill yn boethoffrwm a'r llall yn aberth dros bechod; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosti, a bydd yn lân.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 12