22. O'r rhain cewch fwyta unrhyw fath ar locust, ceiliog rhedyn, criciedyn neu sioncyn gwair.
23. Ond y mae pob pryf adeiniog arall sy'n ymlusgo ar bedwar troed yn ffiaidd ichwi.
24. “ ‘Byddwch yn eich halogi eich hunain trwy'r rhain; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan hyd yr hwyr.
25. Rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn eu cyrff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr.
26. “ ‘Y mae unrhyw anifail sydd heb hollti'r ewin a'i fforchi i'r pen, a heb gnoi cil, yn aflan ichwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan.
27. O'r holl greaduriaid sy'n cerdded ar eu pedwar, y mae'r rhai sy'n cerdded ar eu pawennau yn aflan i chwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan hyd yr hwyr.
28. Rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn eu cyrff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; y maent yn aflan ichwi.
29. “ ‘O'r creaduriaid sy'n ymlusgo ar y ddaear, y mae'r rhain yn aflan ichwi: y wenci, y llygoden, pob math ar lysard,
30. y geco, y llyffant, y genau-goeg, y lysard melyn a'r fadfall.
31. O'r rhai sy'n ymlusgo ar y ddaear, dyna'r rhai sy'n aflan ichwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â hwy wedi iddynt farw yn aflan hyd yr hwyr.
32. A bydd unrhyw beth y syrth un ohonynt arno wedi iddo farw, yn aflan, boed o goed, brethyn, croen neu sachliain, i ba beth bynnag y defnyddir ef; rhaid ei roi mewn dŵr, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; yna bydd yn lân.
33. Os syrth un ohonynt i lestr pridd, bydd popeth sydd ynddo yn aflan a rhaid torri'r llestr.
34. Y mae unrhyw fwyd y gellir ei fwyta, ond sydd â dŵr o'r llestri arno, yn aflan; ac y mae unrhyw ddiod y gellir ei hyfed o'r llestr yn aflan.
35. Y mae unrhyw beth y syrth rhan o'u cyrff arno yn aflan, a rhaid ei ddryllio, boed ffwrn neu badell, gan ei fod yn aflan, ac yr ydych i'w ystyried yn aflan.
36. Eto y mae ffynnon neu bydew i gronni dŵr yn lân; y peth sy'n cyffwrdd â'u cyrff sy'n aflan.
37. Os bydd un o'r cyrff yn disgyn ar unrhyw had sydd i'w blannu, y mae'n lân;
38. ond os bydd dŵr ar yr had a'r corff yn disgyn arno, bydd yn aflan ichwi.
39. “ ‘Os bydd un o'r anifeiliaid y cewch eu bwyta yn marw, bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'i gorff yn aflan hyd yr hwyr;
40. rhaid i unrhyw un sy'n bwyta peth o'r corff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn y corff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr.