Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 10:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Cymerodd Nadab ac Abihu, meibion Aaron, bob un ei thuser a rhoi tân ynddynt a gosod arogldarth arno; yr oeddent felly'n cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD dân estron nad oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn.

2. Daeth tân allan o ŵydd yr ARGLWYDD a'u hysu, a buont farw gerbron yr ARGLWYDD.

3. A dywedodd Moses wrth Aaron, “Dyma'r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD:“ ‘Ymysg y rhai sy'n dynesu ataf fe'm sancteiddir,a cherbron yr holl bobl fe'm gogoneddir.’ ”Yr oedd Aaron yn fud.

4. Galwodd Moses ar Misael ac Elsaffan, meibion Ussiel ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, “Dewch yma, ac ewch â'ch cefndryd allan o'r gwersyll rhag iddynt fod o flaen y cysegr.”

5. Daethant hwythau a mynd â hwy yn eu gwisgoedd y tu allan i'r gwersyll, fel y gorchmynnodd Moses.

6. Yna dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion Eleasar ac Ithamar, “Peidiwch â noethi eich pennau na rhwygo eich dillad, rhag ichwi farw, ac i Dduw fod yn ddig wrth yr holl gynulleidfa; ond bydded i'ch pobl, sef holl dŷ Israel, alaru am y rhai a losgodd yr ARGLWYDD â thân.

7. Peidiwch â gadael drws pabell y cyfarfod, neu byddwch farw, oherwydd y mae olew eneinio yr ARGLWYDD arnoch.” Gwnaethant fel y dywedodd Moses.

8. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron,

9. “Nid wyt ti na'th feibion i yfed gwin na diod gadarn pan fyddwch yn dod i babell y cyfarfod, rhag ichwi farw. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros eich cenedlaethau,

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 10