Judith 8:22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Lladd ein pobl, caethiwo'n gwlad, troi'n treftadaeth yn anialwch—ar ein pen ni y daw hyn oll ymhlith y cenhedloedd, lle bynnag y byddwn yn gaethion iddynt; byddwn yn wrthrych gwarth a dirmyg yng ngolwg ein perchnogion.