5. Dychwelodd y cenhadau at Holoffernes ac adrodd y geiriau hyn iddo.
6. Daeth i lawr i'r arfordir, ef a'i fyddin, a gosod gwarchodwyr ar y trefi caerog, gan gymryd gwŷr dethol o'u plith fel cynghreiriaid.
7. Rhoesant hwy a'r holl wlad oddi amgylch groeso iddo â thorchau, â dawnsiau ac â thabyrddau.
8. Dinistriodd yntau yn llwyr eu holl gysegrleoedd, a thorri i lawr eu llwyni cysegredig. Yr oedd wedi ei orchymyn i ddinistrio holl dduwiau'r rhanbarth, er mwyn i bob cenedl addoli Nebuchadnesar yn unig, ac i bob llwyth ac iaith alw arno ef fel ar dduw.
9. Daeth i gyfeiriad Esdraelon, yn agos i Dothan, lle sy'n wynebu crib fynyddig enfawr Jwdea,
10. a gwersyllu rhwng Geba a Scythopolis. Arhosodd yno am fis cyfan er mwyn casglu'r holl gyfreidiau i'w fyddin.