Hen Destament

Testament Newydd

Judith 3:2-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “Gweision y brenin mawr Nebuchadnesar ydym ni; gorweddwn ar ein hyd o'th flaen; gwna â ni yr hyn a fynni.

3. Ein ffermydd, ein holl dir, ein holl feysydd gwenith, ein defaid a'n gwartheg a'n holl gorlannau a'n pebyll, eiddot ti ydynt; defnyddia hwy fel y mynni.

4. Ein trefi a'u trigolion, dy gaethweision di ydynt; tyrd a'u trin hwy fel y gweli'n dda.”

5. Dychwelodd y cenhadau at Holoffernes ac adrodd y geiriau hyn iddo.

6. Daeth i lawr i'r arfordir, ef a'i fyddin, a gosod gwarchodwyr ar y trefi caerog, gan gymryd gwŷr dethol o'u plith fel cynghreiriaid.

7. Rhoesant hwy a'r holl wlad oddi amgylch groeso iddo â thorchau, â dawnsiau ac â thabyrddau.

8. Dinistriodd yntau yn llwyr eu holl gysegrleoedd, a thorri i lawr eu llwyni cysegredig. Yr oedd wedi ei orchymyn i ddinistrio holl dduwiau'r rhanbarth, er mwyn i bob cenedl addoli Nebuchadnesar yn unig, ac i bob llwyth ac iaith alw arno ef fel ar dduw.

9. Daeth i gyfeiriad Esdraelon, yn agos i Dothan, lle sy'n wynebu crib fynyddig enfawr Jwdea,

10. a gwersyllu rhwng Geba a Scythopolis. Arhosodd yno am fis cyfan er mwyn casglu'r holl gyfreidiau i'w fyddin.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 3