Hen Destament

Testament Newydd

Judith 11:5-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Meddai Judith wrtho: “Gwrando ar eiriau dy gaethferch; caniataer i'th lawforwyn lefaru o'th flaen; ni ddywedaf air o gelwydd wrth f'arglwydd y nos hon.

6. Os dilyni gyngor dy lawforwyn, bydd Duw yn gwarantu llwyddiant iti yn dy waith, ac ni fetha f'arglwydd yn ei amcanion.

7. Oherwydd tyngaf lw iti ar fywyd Nebuchadnesar, brenin yr holl ddaear, ac ar ei allu ef, yr hwn a'th anfonodd i osod trefn ar bob enaid byw; oherwydd nid pobl yn unig sydd yn ei wasanaethu ef o'th achos di, ond hefyd bydd bwystfilod y maes, anifeiliaid, ac adar yr awyr trwy dy nerth di yn byw tra pery Nebuchadnesar a'i holl dŷ.

8. Clywsom yn wir am dy ddoethineb a'th orchestion cyfrwys. Y mae'n hysbys i'r holl fyd mai ti'n unig yn yr holl deyrnas sydd dda, yn gyfoethog o ran gwybodaeth, ac yn rhyfeddol o ran medrau rhyfel.

9. Yn awr, clywsom am yr hyn a ddywedodd Achior yn ei araith yn dy gyngor di; gan i wŷr Bethulia ei arbed, fe'u hysbysodd am bopeth a ddywedodd wrthyt ti.

10. Paid, felly, f'arglwydd feistr, â diystyru ei neges; cadw hi yn dy feddwl, oherwydd y mae'n wir; oblegid ni chosbir ein cenedl, ac ni niweidir ei phobl gan y cleddyf oni fyddant yn pechu yn erbyn eu Duw.

11. Ond yn awr, nid oes rhaid i'm harglwydd wynebu rhwystr na methiant yn ei amcan, oherwydd y mae angau ar fin syrthio ar eu pennau, am i bechod eu meddiannu, a byddant felly yn cynddeiriogi eu Duw bob tro y troseddant.

12. Pan fethodd eu cyflenwad bwyd, a'r dŵr yn mynd yn brin, penderfynasant fwyta eu hanifeiliaid, a defnyddio'r holl bethau y gwaharddodd Duw yn ei gyfreithiau iddynt eu bwyta.

13. Er iddynt gysegru blaenffrwyth y gwenith a degymau'r gwin a'r olew, a'u neilltuo i'r offeiriaid sy'n gweini gerbron Duw yn Jerwsalem, ac er nad yw'n briodol i neb o'r bobl gymaint â chyffwrdd y pethau hyn â'u dwylo, y maent wedi penderfynu eu bwyta.

14. Y maent hefyd wedi anfon negeswyr i Jerwsalem, lle mae'r trigolion yn gweithredu yn yr un modd, i geisio caniatâd y senedd i wneud hyn. Yn awr dyma beth a ddigwydd:

15. pan ddaw'r caniatâd iddynt, a hwythau'n gweithredu arno, y dydd hwnnw fe'u traddodir iti i'w dinistrio.

16. Felly, pan glywais i, dy gaethferch, am hyn oll, ffoais oddi wrthynt; ac y mae Duw wedi f'anfon i gyflawni gyda thi bethau a fydd yn rhyfeddod i'r holl fyd, wedi i bawb glywed amdanynt.

17. Oherwydd y mae dy gaethferch yn wraig dduwiol, ac yn addoli Duw'r nef ddydd a nos. Ac yn awr, f'arglwydd, fe arhosaf gyda thi, ac fe â dy gaethferch allan bob nos i'r dyffryn a gweddïo ar Dduw, ac fe ddywed ef wrthyf pan fyddant wedi cyflawni eu pechodau.

18. Yna pan ddychwelaf a chyflwyno'r wybodaeth i ti, cei fynd allan gyda'th holl fyddin, ac nid oes neb ohonynt a all dy wrthsefyll.

19. Arweiniaf di drwy ganol Jwdea nes iti gyrraedd yn agos i Jerwsalem, a gosodaf dy orsedd yng nghanol y ddinas. Byddi yn eu harwain fel defaid heb fugail ganddynt, ac ni feiddia unrhyw gi gyfarth o'th flaen. Cefais ragwybodaeth am hyn; fe'i datguddiwyd imi, ac fe'm hanfonwyd i'w chyhoeddi i ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Judith 11