Hen Destament

Testament Newydd

Judith 11:15-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. pan ddaw'r caniatâd iddynt, a hwythau'n gweithredu arno, y dydd hwnnw fe'u traddodir iti i'w dinistrio.

16. Felly, pan glywais i, dy gaethferch, am hyn oll, ffoais oddi wrthynt; ac y mae Duw wedi f'anfon i gyflawni gyda thi bethau a fydd yn rhyfeddod i'r holl fyd, wedi i bawb glywed amdanynt.

17. Oherwydd y mae dy gaethferch yn wraig dduwiol, ac yn addoli Duw'r nef ddydd a nos. Ac yn awr, f'arglwydd, fe arhosaf gyda thi, ac fe â dy gaethferch allan bob nos i'r dyffryn a gweddïo ar Dduw, ac fe ddywed ef wrthyf pan fyddant wedi cyflawni eu pechodau.

18. Yna pan ddychwelaf a chyflwyno'r wybodaeth i ti, cei fynd allan gyda'th holl fyddin, ac nid oes neb ohonynt a all dy wrthsefyll.

19. Arweiniaf di drwy ganol Jwdea nes iti gyrraedd yn agos i Jerwsalem, a gosodaf dy orsedd yng nghanol y ddinas. Byddi yn eu harwain fel defaid heb fugail ganddynt, ac ni feiddia unrhyw gi gyfarth o'th flaen. Cefais ragwybodaeth am hyn; fe'i datguddiwyd imi, ac fe'm hanfonwyd i'w chyhoeddi i ti.”

20. Yr oedd geiriau Judith wrth fodd Holoffernes a'i holl weision. Synasant at ei doethineb hi,

21. ac meddent: “O naill gwr y ddaear i'r llall, nid oes gwraig debyg o ran prydferthwch ei gwedd nac o ran deallusrwydd ei geiriau.”

22. Meddai Holoffernes wrthi: “Gwnaeth Duw yn dda trwy dy anfon oddi wrth dy bobl er mwyn rhoi'r gallu yn ein dwylo ni, a pheri dinistr i'r rhai sydd wedi diystyru f'arglwydd.

23. Y mae dy ffurf yn brydferth a'th eiriau'n dda. Os gwnei yn ôl d'addewid, dy Dduw di fydd fy Nuw innau, a chei gymryd dy le yn nhÅ· Nebuchadnesar, a dod yn enwog drwy'r holl ddaear.”

Darllenwch bennod gyflawn Judith 11