Hen Destament

Testament Newydd

Judith 1:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. cyn belled â Tanis a Memffis; a holl drigolion yr Aifft hyd at ffiniau Ethiopia.

11. Ond diystyrodd pawb o drigolion yr holl ranbarth neges Nebuchadnesar brenin Asyria, gan wrthod ymuno ag ef i ryfela. Nid oedd arnynt ei ofn; yn wir, nid oedd ef namyn un dyn yn eu golwg; anfonasant ei genhadau yn eu hôl yn waglaw ac yn waradwyddus.

12. Gwnaeth hyn Nebuchadnesar yn dra chynddeiriog tuag at yr holl ranbarth hwnnw, a thyngodd i'w orsedd a'i frenhiniaeth y byddai'n siŵr o ddial ar holl diriogaethau Cilicia, Damascus a Syria, a hefyd yn lladd â'r cleddyf holl drigolion gwlad Moab, yr Ammoniaid a holl Jwdea, a holl bobl yr Aifft hyd at derfynau'r ddau fôr.

13. Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg anfonodd ei fyddin i ryfela yn erbyn y Brenin Arffaxad; bu'n fuddugoliaethus yn y frwydr a gyrru byddin Arffaxad ar ffo, ynghyd â'i holl wŷr meirch a'i holl gerbydau.

14. Meddiannodd ei ddinasoedd, ac wedi cyrraedd Ecbatana, goresgynnodd ei thyrau ac ysbeilio'i heolydd llydan, gan droi ysblander y ddinas yn waradwydd llwyr.

15. Daliodd Arffaxad ym mynyddoedd Ragau, trywanodd ef â'i bicellau, a'i lwyr ddifodi unwaith ac am byth.

16. Yna, dychwelsant i Ninefe, ef a'i fintai gymysg, yn llu enfawr o filwyr. Yno bu'n gorffwys a gwledda gyda'i fyddin am gant ac ugain o ddyddiau.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 1