Hen Destament

Testament Newydd

Josua 9:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Atebasant Josua fel hyn: “Fe ddywedwyd yn glir wrthym ni, dy weision, fod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i'w was Moses roi i chwi y wlad gyfan, a distrywio o'ch blaen ei holl drigolion; am hynny yr oedd arnom ofn mawr am ein heinioes o'ch plegid, a dyna pam y gwnaethom hyn.

25. Yr ydym yn awr yn dy law; gwna inni yr hyn yr wyt ti'n ei dybio sy'n iawn.”

26. A dyna a wnaeth Josua iddynt y diwrnod hwnnw: fe'u hachubodd o law'r Israeliaid rhag iddynt eu lladd,

27. a'u gosod i dorri coed ac i dynnu dŵr i'r gynulleidfa ar gyfer allor yr ARGLWYDD yn y lle a ddewisai ef; ac felly y maent hyd heddiw.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 9