Hen Destament

Testament Newydd

Josua 9:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Dyma a wnawn iddynt: arbedwn eu bywydau, rhag i ddigofaint ddisgyn arnom oherwydd y llw a dyngasom.”

21. Ac meddai'r arweinwyr wrthynt, “Cânt fyw, er mwyn iddynt dorri coed a thynnu dŵr i'r holl gynulleidfa.” Cytunodd yr holl gynulleidfa â'r hyn a ddywedodd yr arweinwyr.

22. Galwodd Josua arnynt a dweud wrthynt, “Pam y bu ichwi ein twyllo a honni eich bod yn byw yn bell iawn i ffwrdd oddi wrthym, a chwithau'n byw yn ein hymyl?

23. Yn awr yr ydych dan y felltith hon: bydd gweision o'ch plith yn barhaol yn torri coed ac yn tynnu dŵr ar gyfer tŷ fy Nuw.”

24. Atebasant Josua fel hyn: “Fe ddywedwyd yn glir wrthym ni, dy weision, fod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i'w was Moses roi i chwi y wlad gyfan, a distrywio o'ch blaen ei holl drigolion; am hynny yr oedd arnom ofn mawr am ein heinioes o'ch plegid, a dyna pam y gwnaethom hyn.

25. Yr ydym yn awr yn dy law; gwna inni yr hyn yr wyt ti'n ei dybio sy'n iawn.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 9