19. Ond dywedodd yr holl arweinwyr wrth y gynulleidfa gyfan, “Yr ydym ni wedi tyngu iddynt yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, ac yn awr ni allwn gyffwrdd â hwy.
20. Dyma a wnawn iddynt: arbedwn eu bywydau, rhag i ddigofaint ddisgyn arnom oherwydd y llw a dyngasom.”
21. Ac meddai'r arweinwyr wrthynt, “Cânt fyw, er mwyn iddynt dorri coed a thynnu dŵr i'r holl gynulleidfa.” Cytunodd yr holl gynulleidfa â'r hyn a ddywedodd yr arweinwyr.
22. Galwodd Josua arnynt a dweud wrthynt, “Pam y bu ichwi ein twyllo a honni eich bod yn byw yn bell iawn i ffwrdd oddi wrthym, a chwithau'n byw yn ein hymyl?
23. Yn awr yr ydych dan y felltith hon: bydd gweision o'ch plith yn barhaol yn torri coed ac yn tynnu dŵr ar gyfer tŷ fy Nuw.”