12. Dyma'n bara; yr oedd yn boeth pan oeddem yn darparu i fynd oddi cartref, y diwrnod yr oeddem yn cychwyn i ddod atoch. Edrychwch fel y mae'n awr wedi sychu a llwydo.
13. A dyma'r gwingrwyn oedd yn newydd pan lanwasom hwy; edrychwch, y maent wedi rhwygo. A dyma'n dillad a'n sandalau wedi treulio gan bellter mawr y daith.”
14. Cymerodd pobl Israel beth o'u bwyd heb ymgynghori â'r ARGLWYDD.
15. Gwnaeth Josua heddwch â hwy, a gwneud cyfamod i'w harbed, a thyngodd arweinwyr y gynulleidfa iddynt.
16. Ymhen tridiau wedi iddynt wneud y cyfamod â hwy, clywsant mai cymdogion yn byw yn eu hymyl oeddent.
17. Wrth i'r Israeliaid deithio ymlaen, daethant ar y trydydd dydd i'w trefi hwy, Gibeon, Ceffira, Beeroth a Ciriath-jearim.
18. Ond nid ymosododd yr Israeliaid arnynt, oherwydd bod arweinwyr y gynulleidfa wedi tyngu iddynt yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, er i'r holl gynulleidfa rwgnach yn erbyn yr arweinwyr.
19. Ond dywedodd yr holl arweinwyr wrth y gynulleidfa gyfan, “Yr ydym ni wedi tyngu iddynt yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, ac yn awr ni allwn gyffwrdd â hwy.