Hen Destament

Testament Newydd

Josua 9:11-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Am hynny dywedodd ein henuriaid a holl drigolion ein gwlad wrthym, ‘Cymerwch fwyd ar gyfer y daith ac ewch i'w cyfarfod, a dywedwch wrthynt, “Eich gweision ydym; felly'n awr gwnewch gyfamod â ni.” ’

12. Dyma'n bara; yr oedd yn boeth pan oeddem yn darparu i fynd oddi cartref, y diwrnod yr oeddem yn cychwyn i ddod atoch. Edrychwch fel y mae'n awr wedi sychu a llwydo.

13. A dyma'r gwingrwyn oedd yn newydd pan lanwasom hwy; edrychwch, y maent wedi rhwygo. A dyma'n dillad a'n sandalau wedi treulio gan bellter mawr y daith.”

14. Cymerodd pobl Israel beth o'u bwyd heb ymgynghori â'r ARGLWYDD.

15. Gwnaeth Josua heddwch â hwy, a gwneud cyfamod i'w harbed, a thyngodd arweinwyr y gynulleidfa iddynt.

16. Ymhen tridiau wedi iddynt wneud y cyfamod â hwy, clywsant mai cymdogion yn byw yn eu hymyl oeddent.

17. Wrth i'r Israeliaid deithio ymlaen, daethant ar y trydydd dydd i'w trefi hwy, Gibeon, Ceffira, Beeroth a Ciriath-jearim.

18. Ond nid ymosododd yr Israeliaid arnynt, oherwydd bod arweinwyr y gynulleidfa wedi tyngu iddynt yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, er i'r holl gynulleidfa rwgnach yn erbyn yr arweinwyr.

19. Ond dywedodd yr holl arweinwyr wrth y gynulleidfa gyfan, “Yr ydym ni wedi tyngu iddynt yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, ac yn awr ni allwn gyffwrdd â hwy.

20. Dyma a wnawn iddynt: arbedwn eu bywydau, rhag i ddigofaint ddisgyn arnom oherwydd y llw a dyngasom.”

21. Ac meddai'r arweinwyr wrthynt, “Cânt fyw, er mwyn iddynt dorri coed a thynnu dŵr i'r holl gynulleidfa.” Cytunodd yr holl gynulleidfa â'r hyn a ddywedodd yr arweinwyr.

22. Galwodd Josua arnynt a dweud wrthynt, “Pam y bu ichwi ein twyllo a honni eich bod yn byw yn bell iawn i ffwrdd oddi wrthym, a chwithau'n byw yn ein hymyl?

23. Yn awr yr ydych dan y felltith hon: bydd gweision o'ch plith yn barhaol yn torri coed ac yn tynnu dŵr ar gyfer tŷ fy Nuw.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 9