Hen Destament

Testament Newydd

Josua 9:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan glywodd yr holl frenhinoedd y tu hwnt i'r Iorddonen, yn y mynydd-dir a'r Seffela ac arfordir y Môr Mawr wrth Lebanon, yn Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid a Jebusiaid,

2. daethant ynghyd fel un i ryfela yn erbyn Josua ac Israel.

3. Pan glywodd trigolion Gibeon yr hyn yr oedd Josua wedi ei wneud i Jericho ac Ai,

4. dyma hwythau'n gweithredu'n gyfrwys. Aethant a darparu bwyd, a llwytho'u hasynnod â hen sachau, a hen wingrwyn tyllog wedi eu trwsio.

5. Rhoesant am eu traed hen sandalau wedi eu clytio, a hen ddillad amdanynt; a bara wedi sychu a llwydo oedd eu bwyd.

6. Yna daethant at Josua i wersyll Gilgal, a dweud wrtho ef a phobl Israel, “Yr ydym wedi dod o wlad bell; felly gwnewch gyfamod â ni'n awr.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 9