Hen Destament

Testament Newydd

Josua 7:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Bu'r Israeliaid yn anffyddlon ynglŷn â'r diofryd; cymerwyd rhan ohono gan Achan fab Carmi, fab Sabdi, fab Sera o lwyth Jwda, a digiodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid.

2. Anfonodd Josua ddynion o Jericho i Ai ger Beth-afen, i'r dwyrain o Fethel. Dywedodd wrthynt, “Ewch i fyny ac ysbïwch y wlad.” Aeth y dynion i fyny ac ysbïo Ai.

3. Yna daethant yn ôl at Josua a dweud wrtho, “Peidied y fyddin gyfan â mynd i fyny; os â dwy neu dair mil o ddynion i fyny, fe orchfygant Ai. Paid â llusgo'r holl fyddin i fyny yno, oherwydd ychydig ydynt.”

4. Aeth tua thair mil o'r fyddin i fyny yno, ond ffoesant o flaen dynion Ai.

5. Lladdodd dynion Ai ryw dri dwsin ohonynt trwy eu hymlid o'r porth hyd at Sebarim, a'u lladd ar y llechwedd. Suddodd calon y bobl a throi megis dŵr.

6. Rhwygodd Josua ei fantell, a syrthiodd ar ei wyneb ar lawr gerbron arch yr ARGLWYDD hyd yr hwyr, a'r un modd y gwnaeth henuriaid Israel, gan luchio llwch ar eu pennau.

7. Dywedodd Josua, “Och! F'Arglwydd DDUW, pam y trafferthaist i ddod â'r bobl hyn dros yr Iorddonen, i'n rhoi yn llaw'r Amoriaid i'n difetha? Gresyn na fuasem wedi bodloni aros yr ochr draw i'r Iorddonen.

8. O Arglwydd, beth a ddywedaf, wedi i'r Israeliaid droi eu cefn o flaen eu gelynion?

9. Pan glyw y Canaaneaid a holl drigolion y wlad, fe'n hamgylchynant, a dileu ein henw o'r wlad; a beth a wnei di am d'enw mawr?”

10. Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Josua, “Cod; pam yr wyt ti wedi syrthio ar dy wyneb fel hyn?

Darllenwch bennod gyflawn Josua 7