Hen Destament

Testament Newydd

Josua 6:21-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Distrywiwyd â'r cleddyf bopeth yn y ddinas, yn wŷr a gwragedd, yn hen ac ifainc, yn ychen, defaid ac asynnod.

22. Dywedodd Josua wrth y ddau ddyn a fu'n ysbïo'r wlad, “Ewch i dŷ'r butain, a dewch â hi allan, hi a phawb sy'n perthyn iddi, yn unol â'ch addewid iddi.”

23. Aeth yr ysbïwyr, a dwyn allan Rahab a'i thad a'i mam a'i brodyr a phawb oedd yn perthyn iddi; yn wir daethant â'i thylwyth i gyd oddi yno a'u gosod y tu allan i wersyll Israel.

24. Yna llosgasant y ddinas a phopeth ynddi â thân, ond rhoesant yr arian a'r aur a'r offer pres a haearn yn nhrysorfa tŷ'r ARGLWYDD.

25. Ond arbedodd Josua Rahab y butain a'i theulu a phawb oedd yn perthyn iddi, am iddi guddio'r negeswyr a anfonodd Josua i ysbïo Jericho; ac y maent yn byw ymhlith yr Israeliaid hyd y dydd hwn.

26. A'r pryd hwnnw cyhoeddodd Josua y llw hwn, a dweud:“Melltigedig gerbron yr ARGLWYDDfyddo'r sawl a gyfyd ac a adeilada'r ddinas hon, Jericho;ar draul ei gyntafanedig y gesyd ei seiliau hi,ac ar draul ei fab ieuengaf y cyfyd ei phyrth.”

27. Bu'r ARGLWYDD gyda Josua, ac aeth sôn amdano trwy'r holl wlad.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 6