Hen Destament

Testament Newydd

Josua 3:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Heddiw yr wyf am ddechrau dy ddyrchafu yng ngolwg Israel gyfan, er mwyn iddynt sylweddoli fy mod i gyda thi fel y bûm gyda Moses.

8. Felly gorchymyn di i'r offeiriaid sy'n cludo arch y cyfamod, ‘Pan ddewch at lan dyfroedd yr Iorddonen, safwch ynddi.’ ”

9. Dywedodd Josua wrth yr Israeliaid, “Nesewch a gwrandewch eiriau'r ARGLWYDD eich Duw.

10. Dyma sut y byddwch yn gwybod bod y Duw byw yn eich mysg, a'i fod yn sicr o yrru allan o'ch blaen y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebusiaid:

11. bydd arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn croesi o'ch blaen drwy'r Iorddonen.

12. Felly dewiswch yn awr ddeuddeg dyn o blith llwythau Israel, un o bob llwyth.

13. Pan fydd gwadnau traed yr offeiriaid sy'n cludo arch yr ARGLWYDD, Arglwydd yr holl ddaear, yn cyffwrdd â'r Iorddonen, fe wahenir ei dyfroedd, a bydd y dŵr sy'n llifo i lawr oddi uchod yn cronni'n un pentwr.”

14. Pan gychwynnodd y bobl o'u pebyll i groesi'r Iorddonen, yr oedd yr offeiriaid oedd yn cludo arch y cyfamod ar flaen y bobl.

15. Yn awr, bydd yr Iorddonen yn gorlifo ei glannau holl ddyddiau'r cynhaeaf; ond pan ddaeth cludwyr yr arch at yr Iorddonen, a thraed yr offeiriaid oedd yn cludo'r arch yn cyffwrdd ag ymyl y dŵr,

16. cronnodd y dyfroedd oedd yn llifo i lawr oddi uchod, a chodi'n un pentwr ymhell iawn i ffwrdd yn Adam, y dref sydd gerllaw Sarethan. Darfu'n llwyr am y dyfroedd oedd yn llifo i lawr tua Môr yr Araba, y Môr Marw, a chroesodd yr holl bobl gyferbyn â Jericho.

17. Tra oedd Israel gyfan yn croesi ar dir sych, safodd yr offeiriaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD yn drefnus ar sychdir yng nghanol yr Iorddonen, hyd nes i'r holl genedl orffen croesi'r afon.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 3