Hen Destament

Testament Newydd

Josua 24:25-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Gwnaeth Josua gyfamod â'r bobl y diwrnod hwnnw yn Sichem, a gosod deddf a chyfraith ar eu cyfer.

26. Ysgrifennodd y geiriau hynny yn llyfr cyfraith Duw, a chymryd maen mawr a'i osod i fyny yno o dan dderwen oedd yng nghysegr yr ARGLWYDD.

27. Dywedodd wrth yr holl bobl, “Edrychwch, bydd y maen hwn yn dystiolaeth yn ein herbyn, oherwydd clywodd yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthym, a bydd yn dystiolaeth yn eich erbyn os byddwch yn gwadu eich Duw.”

28. Yna gollyngodd Josua'r bobl, bob un i'w etifeddiaeth.

29. Wedi'r pethau hyn bu farw Josua fab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn gant a deg oed.

30. Claddwyd ef o fewn terfynau ei etifeddiaeth, yn Timnath-sera ym mynydd-dir Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaas.

31. Gwasanaethodd Israel yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau'r henuriaid hynny a oroesodd Josua ac a wyddai am yr y cyfan a wnaeth yr ARGLWYDD dros Israel.

32. Yr oedd yr Israeliaid wedi cludo esgyrn Joseff o'r Aifft, a chladdwyd hwy yn Sichem yn y llain o dir a brynodd Jacob gan feibion Hamor, tad Sichem, am gant o ddarnau arian, i fod yn eiddo i blant Joseff.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 24