Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Dinasoedd y Lefiaid

1. Daeth pennau-teuluoedd y Lefiaid at yr offeiriad Eleasar, at Josua fab Nun, ac at bennau-teuluoedd llwythau'r Israeliaid,

2. a dweud wrthynt yn Seilo yng ngwlad Canaan, “Gorchmynnodd yr ARGLWYDD drwy Moses roi dinasoedd i ni i fyw ynddynt, a hefyd eu porfeydd ar gyfer ein hanifeiliaid.”

3. Yna, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoddodd yr Israeliaid o'u hetifeddiaeth hwy y dinasoedd a nodir isod a'u porfeydd i'r Lefiaid.

4. Pan ddisgynnodd y coelbren ar deuluoedd y Cohathiaid, cafodd y Lefiaid a hanoedd o Aaron yr offeiriad dair dinas ar ddeg trwy'r coelbren gan lwythau Jwda, Simeon a Benjamin.

5. Cafodd gweddill y Cohathiaid ddeg dinas trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Effraim, llwyth Dan, a hanner llwyth Manasse.

6. Cafodd y Gersoniaid dair dinas ar ddeg yn Basan trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Issachar, llwyth Aser, llwyth Nafftali a hanner llwyth Manasse.

7. Cafodd y Merariaid ddeuddeg dinas, yn ôl eu teuluoedd, gan lwythau Reuben, Gad a Sabulon.

8. Rhoddodd yr Israeliaid y dinasoedd hyn a'u porfeydd i'r Lefiaid trwy'r coelbren, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

9. Rhoesant y dinasoedd a enwir yma gan lwythau Jwda a Simeon

10. i'r Lefiaid o deuluoedd y Cohathiaid a hanoedd o Aaron, gan mai arnynt hwy y disgynnodd y coelbren cyntaf.

11. Rhoesant iddynt Ciriath-arba (Arba oedd tad Anac), sef Hebron ym mynydd-dir Jwda, a'r porfeydd o'i hamgylch.

12. Ond rhoesant dir y ddinas a'i phentrefi yn etifeddiaeth i Caleb fab Jeffunne.

13. I ddisgynyddion Aaron yr offeiriad rhoesant Hebron, dinas noddfa i leiddiaid, hefyd Libna,

14. Jattir, Estemoa,

15. Holon, Debir,

16. Ain, Jutta a Beth-semes, bob un â'i phorfeydd: naw dinas gan y ddau lwyth hynny.

17. Ac o lwyth Benjamin rhoesant Gibeon, Geba,

18. Anathoth, ac Almon, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

19. Cafodd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, dair dinas ar ddeg a'u porfeydd.

20. Gan lwyth Effraim y cafodd gweddill y Lefiaid o linach Cohath eu dinasoedd trwy goelbren, yn ôl teuluoedd y Cohathiaid.

21. Rhoesant Sichem, dinas noddfa i leiddiaid ym mynydd-dir Effraim, hefyd Geser,

22. Cibsaim a Beth-horon, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

23. O lwyth Dan yr oedd Eltece, Gibbethon,

24. Ajalon a Gath-rimmon, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

25. O hanner llwyth Manasse yr oedd Taanach a Gath-rimmon a'u porfeydd: dwy ddinas.

26. Cafodd gweddill teuluoedd y Cohathiaid ddeg dinas i gyd, a'u porfeydd.

27. Gan hanner llwyth Manasse cafodd y Gersoniaid o blith teuluoedd y Lefiaid Golan, dinas noddfa i leiddiaid yn Basan, a hefyd Beestera, bob un â'i phorfeydd: dwy ddinas.

28. O lwyth Issachar cafwyd Cison, Daberath,

29. Jarmuth ac En-gannim, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

30. O lwyth Aser cafwyd Misal, Abdon,

31. Helcath a Rehob, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

32. O lwyth Nafftali cafwyd Cedes, dinas noddfa i leiddiaid yn Galilea, a hefyd Hammoth-dor a Cartan, bob un â'i phorfeydd: tair dinas.

33. Yr oedd gan y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, dair dinas ar ddeg i gyd, a'u porfeydd.

34. Gan lwyth Sabulon cafodd gweddill y Lefiaid a hanoedd o Merari, yn ôl eu teuluoedd, Jocneam, Carta,

35. Dimna a Nahalal, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

36. O lwyth Reuben cafwyd Beser, Jahas,

37. Cedemoth a Meffaath, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

38. O lwyth Gad cafwyd Ramoth, dinas noddfa i leiddiaid, yn Gilead, hefyd Mahanaim,

39. Hesbon a Jaser, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas i gyd.

40. Nifer y dinasoedd a gafodd y Merariaid, sef gweddill teuluoedd y Lefiaid, oedd deuddeg dinas i gyd, trwy'r coelbren yn ôl eu teuluoedd.

41. Yr oedd nifer dinasoedd y Lefiaid oddi mewn i diriogaeth yr Israeliaid yn wyth a deugain o ddinasoedd a'u porfeydd.

42. Yr oedd gan bob un o'r dinasoedd hyn ei phorfeydd o'i hamgylch; dyna'r drefn gyda phob un o'r dinasoedd hyn.

Israel yn Meddiannu'r Wlad

43. Rhoddodd yr ARGLWYDD i Israel yr holl wlad a addawodd i'w hynafiaid. Wedi iddynt ei meddiannu ac ymsefydlu ynddi,

44. rhoddodd yr ARGLWYDD ddiogelwch iddynt ar bob tu, yn union fel yr addawodd i'w hynafiaid; ni allodd yr un o'u gelynion eu gwrthsefyll, oherwydd rhoddodd yr ARGLWYDD hwy oll yn eu dwylo.

45. Ni fethodd un o'r holl bethau da a addawodd yr ARGLWYDD i dŷ Israel; daeth y cwbl i ben.