Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Dinasoedd Noddfa

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Josua a dweud,

2. “Dywed wrth yr Israeliaid am neilltuo dinasoedd noddfa, fel y gorchmynnais iddynt trwy Moses,

3. er mwyn i'r sawl sydd wedi lladd rhywun trwy amryfusedd, neu'n anfwriadol, gael ffoi iddynt, a chael noddfa ynddynt rhag y dialydd gwaed.

4. Pan fydd rhywun yn ffoi i un o'r dinasoedd hyn, y mae i sefyll wrth fynediad porth y ddinas, ac adrodd ei achos yng nghlyw henuriaid y ddinas honno. Os byddant yn caniatáu iddo ddod i mewn atynt i'r ddinas, byddant yn nodi lle ar ei gyfer, a chaiff aros yno gyda hwy.

5. Os daw'r dialydd gwaed ar ei ôl, nid ydynt i ildio'r lleiddiad iddo, oherwydd yn anfwriadol y lladdodd ef ei gymydog, ac nid oedd yn ei gasáu'n flaenorol.

6. Caiff aros yn y ddinas honno nes iddo sefyll ei brawf gerbron y gynulleidfa. Ar farwolaeth y sawl fydd yn archoffeiriad ar y pryd, caiff y lleiddiad fynd yn ôl i'w gartref yn y dref y ffodd ohoni.”

7. Neilltuasant Cedes yn Galilea ym mynydd-dir Nafftali, Sichem ym mynydd-dir Effraim, a Ciriath-arba, sef Hebron, ym mynydd-dir Jwda.

8. Y tu hwnt i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho, nodasant Beser ar y gwastatir yn yr anialwch, o lwyth Reuben; Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasse.

9. Nodwyd y dinasoedd hyn ar gyfer yr holl Israeliaid, a'r dieithriaid oedd dros dro yn eu mysg, er mwyn i'r sawl fyddai wedi lladd rhywun mewn amryfusedd ffoi iddynt, rhag iddo farw trwy law dialydd gwaed cyn sefyll ei brawf gerbron y gynulleidfa.