Hen Destament

Testament Newydd

Josua 2:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O Sittim anfonodd Josua fab Nun ddau ysbïwr yn ddirgel. Dywedodd wrthynt, “Ewch i ysbïo'r wlad, yn arbennig Jericho.” Aethant hwythau, a chyrraedd tŷ rhyw butain o'r enw Rahab, a lletya yno. Dywedwyd wrth frenin Jericho,

2. “Edrych! Y mae rhai o'r Israeliaid wedi cyrraedd yma heno i chwilio'r wlad.”

3. Anfonodd brenin Jericho at Rahab a dweud, “Tro allan y dynion a ddaeth atat i'th dŷ, oherwydd wedi dod i ysbïo'r holl wlad y maent.”

4. Wedi i'r wraig gymryd y ddau ddyn a'u cuddio, dywedodd, “Do, fe ddaeth y dynion ataf, ond ni wyddwn o ble'r oeddent;

5. a chyda'r nos, pan oedd y porth ar fin cau, aeth y dynion allan. Ni wn i ble'r aethant, ond brysiwch ar eu hôl; yr ydych yn sicr o'u dal.”

6. Yr oedd hi wedi mynd â'r dynion i fyny ar y to, a'u cuddio â'r planhigion llin a oedd ganddi'n rhesi yno.

7. Aeth y dynion a oedd yn eu hymlid ar eu hôl hyd at rydau'r Iorddonen; a chaewyd y porth, wedi i'r ymlidwyr fynd allan.

8. Cyn i'r ysbïwyr gysgu, aeth Rahab i fyny ar y to,

9. a dweud wrthynt, “Gwn fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r wlad i chwi, a bod eich arswyd wedi syrthio arnom, a holl drigolion y wlad mewn gwewyr o'ch plegid.

10. Oherwydd clywsom fel y sychodd yr ARGLWYDD ddyfroedd y Môr Coch o'ch blaen pan ddaethoch allan o'r Aifft, ac fel y bu ichwi ddifodi Sihon ac Og, dau frenin yr Amoriaid y tu hwnt i'r Iorddonen.

11. Pan glywsom hyn, suddodd ein calonnau, ac nid oes hyder gan neb i'ch wynebu, oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw chwi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod.

12. Am hynny, tyngwch i mi yn enw'r ARGLWYDD, am i mi wneud caredigrwydd â chwi, y gwnewch chwithau'r un modd â'm teulu i; rhowch imi sicrwydd

13. y cadwch yn fyw fy nhad a'm mam, fy mrodyr a'm chwiorydd, a phawb sy'n perthyn iddynt, ac yr arbedwch ein bywydau rhag angau.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 2