Hen Destament

Testament Newydd

Josua 18:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Y maent i'w rhannu'n saith rhan; y mae Jwda i gadw ei derfyn yn y de, a thŷ Joseff ei derfyn yn y gogledd.

6. Ac wedi ichwi ddosbarthu'r tir yn saith rhan, dewch â'r rhestrau ataf fi i'r fan hon, er mwyn imi fwrw coelbren drosoch yma gerbron yr ARGLWYDD ein Duw.

7. Ni fydd rhan i'r Lefiaid yn eich mysg, oherwydd offeiriadaeth yr ARGLWYDD yw eu hetifeddiaeth hwy; a hefyd y mae Gad a Reuben a hanner llwyth Manasse wedi cael eu hetifeddiaeth i'r dwyrain o'r Iorddonen o law Moses gwas yr ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 18