9. O ben y mynydd yr oedd y terfyn yn troi am ffynnon dyfroedd Nefftoa ac yna ymlaen at drefi Mynydd Effron, cyn troi am Baala, sef Ciriath-jearim.
10. O Baala yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin at Fynydd Seir ac yn croesi llechwedd gogleddol Mynydd Jearim, sef Cesalon, cyn disgyn at Beth-semes ac ymlaen at Timna.
11. Wedi hyn âi'r terfyn ymlaen hyd lechwedd gogleddol Ecron, yna mynd i gyfeiriad Sicceron, ymlaen at Fynydd Baala ac at Jabneel, nes cyrraedd y môr.
12. Glannau'r Môr Mawr oedd y terfyn gorllewinol. Dyma'r terfyn o amgylch Jwda yn ôl eu tylwythau.
13. Yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Josua, rhoddwyd i Caleb fab Jeffunne randir yn Jwda, sef Ciriath-arba, hynny yw Hebron; tad yr Anaciaid oedd Arba.
14. Gyrrodd Caleb allan oddi yno dri o'r Anaciaid, sef Sesai, Ahiman a Talmai, disgynyddion Anac.
15. Oddi yno ymosododd ar drigolion Debir; Ciriath-seffer oedd enw Debir gynt.
16. Dywedodd Caleb, “Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer a'i hennill, fe roddaf fy merch Achsa yn wraig iddo.”
17. Othniel fab Cenas, brawd Caleb, a'i henillodd; rhoddodd yntau ei ferch Achsa yn wraig iddo.
18. Pan ddaeth hi ato, fe'i hanogodd i geisio tir amaeth gan ei thad. Wedi iddi ddisgyn oddi ar yr asyn, gofynnodd Caleb iddi, “Beth a fynni?”
19. Atebodd hithau, “Rho imi anrheg; yr wyt wedi rhoi imi dir yn y Negef, rho imi hefyd ffynhonnau dŵr.” Felly fe roddodd Caleb iddi'r Ffynhonnau Uchaf a'r Ffynhonnau Isaf.
20. Dyma etifeddiaeth llwyth Jwda yn ôl eu tylwythau.