48. Yn y mynydd-dir yr oedd Samir, Jattir, Socho,
49. Danna, Ciriath-sannath (sef Debir),
50. Anab, Astemo, Anim,
51. Gosen, Holon a Gilo: un ar ddeg o drefi a'u pentrefi.
52. Arab, Duma, Esean,
53. Janum, Beth-tappua, Affeca,
54. Humta, Ciriath-arba (sef Hebron), a Sïor: naw o drefi a'u pentrefi.
55. Maon, Carmel, Siff, Jutta,
56. Jesreel, Jocdeam, Sanoa,
57. Cain, Gibea, Timna: deg o drefi a'u pentrefi.
58. Halhul, Beth-sur, Gedor,
59. Maarath, Beth-anoth ac Eltecon: chwech o drefi a'u pentrefi.
60. Ciriath-baal, sef Ciriath-jearim, a Rabba: dwy dref a'u pentrefi.
61. Yn yr anialwch yr oedd Beth-araba, Midin, Sechacha,
62. Nibsan, Dinas yr Halen ac En-gedi: chwech o drefi a'u pentrefi.
63. Ni allodd y Jwdeaid ddisodli'r Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem; felly y mae'r Jebusiaid wedi byw gyda'r Jwdeaid yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.