Hen Destament

Testament Newydd

Josua 15:2-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Yr oedd eu terfyn deheuol yn rhedeg o gwr eithaf y Môr Marw, o'r gilfach sy'n wynebu tua'r Negef,

3. ac ymlaen i'r de o riw Acrabbim heibio i Sin, yna i fyny i'r de o Cades-barnea, heibio i Hesron, i fyny at Addar ac yna troi am Carca.

4. Wedi mynd heibio i Asmon, dilynai derfyn nant yr Aifft, nes cyrraedd y môr. Hwn oedd eu terfyn deheuol.

5. Y terfyn i'r dwyrain oedd y Môr Marw, cyn belled ag aber yr Iorddonen. Yr oedd y terfyn gogleddol yn ymestyn o gilfach y môr, ger aber yr Iorddonen,

6. i fyny at Beth-hogla, gan gadw i'r gogledd o Beth-araba ac ymlaen at faen Bohan fab Reuben.

7. Yna âi'r terfyn o ddyffryn Achor i Debir, a thua'r gogledd i gyfeiriad Gilgal, sydd gyferbyn â rhiw Adummim i'r de o'r nant, a throsodd at ddyfroedd En-semes ac ymlaen at En-rogel.

8. Oddi yno âi'r terfyn i fyny dyffryn Ben-hinnom i'r de o lechwedd y Jebusiaid, sef Jerwsalem, ac i ben y mynydd sy'n wynebu dyffryn Hinnom o'r gorllewin, yng nghwr gogleddol dyffryn Reffaim.

9. O ben y mynydd yr oedd y terfyn yn troi am ffynnon dyfroedd Nefftoa ac yna ymlaen at drefi Mynydd Effron, cyn troi am Baala, sef Ciriath-jearim.

10. O Baala yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin at Fynydd Seir ac yn croesi llechwedd gogleddol Mynydd Jearim, sef Cesalon, cyn disgyn at Beth-semes ac ymlaen at Timna.

11. Wedi hyn âi'r terfyn ymlaen hyd lechwedd gogleddol Ecron, yna mynd i gyfeiriad Sicceron, ymlaen at Fynydd Baala ac at Jabneel, nes cyrraedd y môr.

12. Glannau'r Môr Mawr oedd y terfyn gorllewinol. Dyma'r terfyn o amgylch Jwda yn ôl eu tylwythau.

13. Yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Josua, rhoddwyd i Caleb fab Jeffunne randir yn Jwda, sef Ciriath-arba, hynny yw Hebron; tad yr Anaciaid oedd Arba.

14. Gyrrodd Caleb allan oddi yno dri o'r Anaciaid, sef Sesai, Ahiman a Talmai, disgynyddion Anac.

15. Oddi yno ymosododd ar drigolion Debir; Ciriath-seffer oedd enw Debir gynt.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 15