Hen Destament

Testament Newydd

Josua 15:17-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Othniel fab Cenas, brawd Caleb, a'i henillodd; rhoddodd yntau ei ferch Achsa yn wraig iddo.

18. Pan ddaeth hi ato, fe'i hanogodd i geisio tir amaeth gan ei thad. Wedi iddi ddisgyn oddi ar yr asyn, gofynnodd Caleb iddi, “Beth a fynni?”

19. Atebodd hithau, “Rho imi anrheg; yr wyt wedi rhoi imi dir yn y Negef, rho imi hefyd ffynhonnau dŵr.” Felly fe roddodd Caleb iddi'r Ffynhonnau Uchaf a'r Ffynhonnau Isaf.

20. Dyma etifeddiaeth llwyth Jwda yn ôl eu tylwythau.

21. Yng nghwr eithaf llwyth Jwda ar derfyn Edom yn y Negef, y trefi oedd Cabseel, Eder, Jagur,

22. Cina, Dimona, Adada,

23. Cedes, Hasor, Ithnan,

24. Siff, Telem, Bealoth,

25. Hasor, Hadatta, Cerioth, Hesron (sef Hasor),

26. Amam, Sema, Molada,

27. Hasar-gada, Hesmon, Beth-pelet,

28. Hasar-sual, Beerseba, Bisiothia,

Darllenwch bennod gyflawn Josua 15