Hen Destament

Testament Newydd

Josua 14:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Deugain oed oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr ARGLWYDD fi o Cades-barnea i ysbïo'r wlad. Deuthum ag adroddiad diragfarn yn ôl iddo.

8. Er bod fy nghymdeithion wedi digalonni'r bobl, fe lwyr ddilynais i yr ARGLWYDD fy Nuw;

9. ac fe addawodd Moses imi y diwrnod hwnnw: ‘Yn sicr, etifeddiaeth i ti ac i'th blant am byth fydd y tir y bydd dy droed yn sangu arno, am iti lwyr ddilyn yr ARGLWYDD, fy Nuw.’

10. Yn awr, dyma'r ARGLWYDD wedi f'arbed, fel yr addawodd, dros y pum mlynedd a deugain hyn er pan lefarodd yr ARGLWYDD yr addewid hon wrth Moses, pan oedd Israel yn rhodio'r anialwch; a dyma fi heddiw yn bump a phedwar ugain oed.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 14