Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Gorchfygu Brenhinoedd y Gogledd

1. Pan glywodd Jabin brenin Hasor, anfonodd at Jobab brenin Madon ac at frenhinoedd Simron ac Achsaff,

2. hefyd at y brenhinoedd oedd ym mynydd-dir y gogledd ac yn yr Araba i'r de o Cinneroth, ac yn y Seffela a Naffath-dor yn y gorllewin.

3. Yr oedd y Canaaneaid i'r dwyrain a'r gorllewin, a'r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid a Jebusiaid yn y mynydd-dir, gyda'r Hefiaid dan Fynydd Hermon yn ardal Mispa.

4. Daethant allan, hwy a'u holl fyddinoedd, yn llu enfawr, mor niferus â'r tywod ar lan y môr, gyda llawer iawn o feirch a cherbydau.

5. Wedi i'r holl frenhinoedd hyn ymgynnull, aethant a gwersyllu ynghyd ger Dyfroedd Merom er mwyn ymladd ag Israel.

6. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Paid â'u hofni, oherwydd tua'r adeg yma yfory byddaf yn rhoi pob un yn gelain gerbron Israel; byddi'n torri llinynnau garrau eu meirch ac yn llosgi eu cerbydau â thân.”

7. Daeth Josua a'r holl filwyr oedd gydag ef ar eu gwarthaf yn ddisymwth ger Dyfroedd Merom, a rhuthro arnynt.

8. Rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Israel; trawsant hwy, a'u hymlid hyd at Sidon Fawr a Misreffoth-maim, a dyffryn Mispa i'r dwyrain. Trawsant hwy, heb arbed neb.

9. Gwnaeth Josua iddynt fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho; torrodd linynnau garrau eu meirch a llosgodd eu cerbydau â thân.

10. Y pryd hwnnw trodd Josua i gyfeiriad Hasor a'i goresgyn, a lladd ei brenin â'r cleddyf. Yr oedd Hasor gynt yn ben ar yr holl deyrnasoedd hynny.

11. Trawsant bawb oedd ynddi â'r cleddyf a'u lladd, heb arbed yr un perchen anadl, ac yna llosgi Hasor â thân.

12. Goresgynnodd Josua bob un o ddinasoedd y brenhinoedd hyn yn ogystal â'u brenhinoedd; trawodd hwy â'r cleddyf a'u difodi, fel y gorchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD.

13. Ond am y dinasoedd oedd yn sefyll ar garneddau, ni losgodd Israel yr un ohonynt, ac eithrio Hasor, a losgwyd gan Josua.

14. Cymerodd yr Israeliaid holl anrhaith y dinasoedd hynny yn ysbail, gan gynnwys y gwartheg, ond trawsant y boblogaeth i gyd â'r cleddyf a'u lladd, heb arbed un perchen anadl.

15. Fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i'w was Moses, felly yr oedd Moses wedi gorchymyn i Josua; dyna a wnaeth Josua heb esgeuluso dim o'r cwbl a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

Manylion Pellach am Goncwest Josua

16. Gorchfygodd Josua y cwbl o'r wlad hon: y mynydd-dir, y Negef i gyd, holl wlad Gosen, y Seffela a'r Araba; hefyd mynydd-dir Israel a'r Seffela,

17. o Fynydd Halac sy'n codi tua Seir hyd at Baal-gad yn nyffryn Lebanon dan Fynydd Hermon. Gorchfygodd ei brenhinoedd i gyd, a'u taro a'u lladd.

18. Bu Josua'n ymladd â'r holl frenhinoedd hyn am amser maith.

19. Ni wnaeth yr un ddinas gytundeb heddwch â'r Israeliaid, heblaw'r Hefiaid oedd yn byw yn Gibeon; cymryd y cwbl trwy ryfel a wnaethant.

20. Yr ARGLWYDD oedd yn caledu eu calon i ryfela yn erbyn Israel, er mwyn iddynt eu difodi yn ddidrugaredd, ac yn wir eu distrywio fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

21. Y pryd hwnnw aeth Josua a difa'r Anacim o'r mynydd-dir o gwmpas Hebron, Debir, ac Anab, ac o holl fynydd-dir Jwda ac Israel; difododd Josua hwy a'u dinasoedd.

22. Ni adawyd Anacim ar ôl yng ngwlad yr Israeliaid, ond yr oedd gweddill ohonynt ar ôl yn Gasa, Gath ac Asdod.

23. Enillodd Josua yr holl wlad yn unol â'r cwbl a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, a rhoddodd Josua hi yn etifeddiaeth i Israel yn ôl cyfrannau'r llwythau. A chafodd y wlad lonydd rhag rhyfel.