Hen Destament

Testament Newydd

Josua 10:24-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Wedi iddynt ddod â'r brenhinoedd hyn allan at Josua, galwodd yntau ar holl wŷr Israel, a dweud wrth swyddogion y milwyr a fu'n ymdeithio gydag ef, “Dewch yma, gosodwch eich traed ar warrau'r brenhinoedd hyn.” Aethant hwythau atynt a gosod eu traed ar eu gwarrau.

25. Yna dywedodd Josua wrthynt, “Peidiwch ag ofni na brawychu; byddwch yn gryf a dewr, oherwydd fel hyn y gwna'r ARGLWYDD i'r holl elynion y byddwch yn ymladd â hwy.”

26. Wedi hyn trawodd Josua hwy'n farw a'u crogi ar bum coeden, a buont ynghrog ar y coed hyd yr hwyr.

27. Adeg machlud haul gorchmynnodd Josua eu tynnu i lawr oddi ar y coed, a bwriwyd hwy i'r ogof y buont yn ymguddio ynddi; gosodasant feini mawrion ar geg yr ogof, lle maent hyd heddiw.

28. Y diwrnod hwnnw goresgynnodd Josua Macceda a'i tharo hi a'i brenin â'r cleddyf, a lladd pawb oedd ynddi, heb arbed neb; gwnaeth i frenin Macceda fel yr oedd wedi gwneud i frenin Jericho.

29. Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Macceda i Libna, ac ymosod arni.

30. Rhoddodd yr ARGLWYDD hi a'i brenin yn llaw Israel, a thrawodd Josua hi a phawb oedd ynddi â'r cleddyf, heb arbed neb; gwnaeth i'w brenin fel yr oedd wedi gwneud i frenin Jericho.

31. Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Libna i Lachis, a gwersyllu yn ei herbyn ac ymosod arni.

32. Rhoddodd yr ARGLWYDD Lachis yn llaw Israel, ac fe'i gorchfygodd hi yr ail ddiwrnod a'i tharo hi a phawb oedd ynddi â'r cleddyf, yn union fel y gwnaeth i Libna.

33. Yna daeth Horam brenin Geser i fyny i gynorthwyo Lachis, ond trawodd Josua ef a'i fyddin, heb arbed neb.

34. Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Lachis i Eglon, a gwersyllu yn ei herbyn ac ymosod arni.

35. Goresgynnodd y bobl hi y diwrnod hwnnw a'i tharo â'r cleddyf a lladd pawb oedd ynddi, yn union fel y gwnaed i Lachis.

36. Aeth Josua a holl Israel gydag ef i fyny o Eglon i Hebron, ac ymosod arni.

37. Goresgynnodd hi a tharo â'r cleddyf y ddinas, ei brenin, a'i maestrefi i gyd a phawb oedd ynddynt, heb arbed neb, ond ei difodi hi a phawb oedd ynddi, yn union fel y gwnaeth i Eglon.

38. Yna trodd Josua a holl Israel gydag ef i gyfeiriad Debir ac ymosod arni.

39. Goresgynnodd hi a'i brenin a'i maestrefi i gyd, a'u lladd â'r cleddyf a lladd pawb oedd ynddi, heb arbed neb; gwnaeth i Debir a'i brenin fel yr oedd wedi gwneud i Hebron ac i Libna a'i brenin.

40. Gorchfygodd Josua y wlad i gyd: y mynydd-dir, y Negef, y Seffela a'r llechweddau, a hefyd eu holl frenhinoedd, heb arbed neb, ond lladd pob perchen anadl, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, Duw Israel.

41. Trawodd Josua hwy o Cades-barnea hyd at Gasa, ac o wlad Gosen i gyd hyd at Gibeon.

42. Goresgynnodd Josua yr holl frenhinoedd hyn a'u tiroedd mewn un cyrch am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ymladd dros Israel.

43. Yna fe ddychwelodd Josua a holl Israel gydag ef i'r gwersyll yn Gilgal.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 10