Hen Destament

Testament Newydd

Josua 10:16-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ond yr oedd y pum brenin hynny wedi ffoi ac ymguddio mewn ogof yn Macceda.

17. Pan hysbyswyd Josua iddynt ddarganfod y pum brenin yn ymguddio mewn ogof yn Macceda,

18. dywedodd Josua, “Pentyrrwch feini mawrion ar geg yr ogof, a gosodwch ddynion i'w gwylio.

19. Peidiwch chwithau â sefyllian, ymlidiwch eich gelynion a'u goddiweddyd; peidiwch â gadael iddynt gyrraedd eu dinasoedd, gan fod yr ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi yn eich gafael.”

20. Er i Josua a'r Israeliaid wneud lladdfa fawr iawn yn eu mysg a'u difa, dihangodd rhai ohonynt a chyrraedd y dinasoedd caerog.

21. Wedi hynny dychwelodd yr holl fyddin yn ddiogel i'r gwersyll at Josua yn Macceda, heb neb yn yngan gair yn erbyn yr Israeliaid.

22. Yna dywedodd Josua, “Agorwch geg yr ogof, a dewch â'r pum brenin allan ataf oddi yno.”

23. Gwnaethant hynny, a dod â'r pum brenin allan ato, sef brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Jarmuth, Lachis ac Eglon.

24. Wedi iddynt ddod â'r brenhinoedd hyn allan at Josua, galwodd yntau ar holl wŷr Israel, a dweud wrth swyddogion y milwyr a fu'n ymdeithio gydag ef, “Dewch yma, gosodwch eich traed ar warrau'r brenhinoedd hyn.” Aethant hwythau atynt a gosod eu traed ar eu gwarrau.

25. Yna dywedodd Josua wrthynt, “Peidiwch ag ofni na brawychu; byddwch yn gryf a dewr, oherwydd fel hyn y gwna'r ARGLWYDD i'r holl elynion y byddwch yn ymladd â hwy.”

26. Wedi hyn trawodd Josua hwy'n farw a'u crogi ar bum coeden, a buont ynghrog ar y coed hyd yr hwyr.

27. Adeg machlud haul gorchmynnodd Josua eu tynnu i lawr oddi ar y coed, a bwriwyd hwy i'r ogof y buont yn ymguddio ynddi; gosodasant feini mawrion ar geg yr ogof, lle maent hyd heddiw.

28. Y diwrnod hwnnw goresgynnodd Josua Macceda a'i tharo hi a'i brenin â'r cleddyf, a lladd pawb oedd ynddi, heb arbed neb; gwnaeth i frenin Macceda fel yr oedd wedi gwneud i frenin Jericho.

29. Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Macceda i Libna, ac ymosod arni.

30. Rhoddodd yr ARGLWYDD hi a'i brenin yn llaw Israel, a thrawodd Josua hi a phawb oedd ynddi â'r cleddyf, heb arbed neb; gwnaeth i'w brenin fel yr oedd wedi gwneud i frenin Jericho.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 10