Hen Destament

Testament Newydd

Josua 10:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clywodd Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai a'i difrodi a gwneud iddi hi a'i brenin yn union fel y gwnaeth i Jericho a'i brenin, a bod trigolion Gibeon wedi gwneud heddwch ag Israel, ac yn byw yn eu mysg.

2. Cododd hyn ofn mawr arno, oherwydd yr oedd Gibeon yn ddinas fawr fel un o'r dinasoedd brenhinol; yr oedd, yn wir, yn fwy nag Ai, a'i holl ddynion yn rhyfelwyr praff.

3. Anfonodd Adonisedec brenin Jerwsalem at Hoham brenin Hebron, Piram brenin Jarmuth, Jaffia brenin Lachis a Debir brenin Eglon, a dweud,

4. “Dewch i fyny i'm cynorthwyo i ymosod ar Gibeon am iddi wneud heddwch â Josua a'r Israeliaid.”

5. Felly fe ymgynullodd pum brenin yr Amoriaid, sef brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Jarmuth, Lachis ac Eglon, ac aethant hwy a'u holl luoedd i fyny a gwarchae ar Gibeon ac ymosod arni.

6. Ond anfonodd pobl Gibeon at Josua i'r gwersyll yn Gilgal a dweud, “Paid â gwrthod cynorthwyo dy weision, ond brysia i fyny atom i'n hachub a'n helpu, oherwydd y mae holl frenhinoedd yr Amoriaid sy'n byw yn y mynydd-dir wedi ymgasglu yn ein herbyn.”

7. Aeth Josua i fyny o Gilgal, a chydag ef bob milwr a'r holl ryfelwyr dewr.

8. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Paid â'u hofni, oherwydd rhoddaf hwy yn dy law; ni fydd neb ohonynt yn sefyll o'th flaen.”

9. Daeth Josua arnynt yn ddisymwth, ar ôl teithio trwy'r nos o Gilgal.

10. Yna gyrrodd yr ARGLWYDD hwy ar chwâl o flaen Israel ac achosi lladdfa fawr yn eu mysg yn Gibeon, a'u hymlid ar hyd y ffordd i fyny at Beth-horon, a dal i'w taro hyd at Aseca a Macceda.

11. Fel yr oeddent yn ffoi o flaen Israel ar lechwedd Beth-horon, bwriodd yr ARGLWYDD arnynt genllysg breision o'r awyr bob cam i Aseca, a buont farw. Bu farw mwy o achos y cenllysg nag a laddwyd gan yr Israeliaid â'r cleddyf.

12. Y diwrnod y darostyngodd yr ARGLWYDD yr Amoriaid o flaen yr Israeliaid fe ganodd Josua i'r ARGLWYDD yng ngŵydd yr Israeliaid:“Haul, aros yn llonydd yn Gibeon,a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.”

13. Ac arhosodd yr haul yn llonydd, a safodd y lleuad, nes i'r genedl ddial ar ei gelynion. Y mae hyn wedi ei ysgrifennu yn Llyfr Jasar. Safodd yr haul yng nghanol yr wybren, heb frysio i fachludo am ddiwrnod cyfan.

14. Ni fu diwrnod fel hwnnw na chynt nac wedyn, a'r ARGLWYDD yn gwrando ar lais meidrolyn; yn wir, yr ARGLWYDD oedd yn ymladd dros Israel.

15. Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal.

16. Ond yr oedd y pum brenin hynny wedi ffoi ac ymguddio mewn ogof yn Macceda.

17. Pan hysbyswyd Josua iddynt ddarganfod y pum brenin yn ymguddio mewn ogof yn Macceda,

18. dywedodd Josua, “Pentyrrwch feini mawrion ar geg yr ogof, a gosodwch ddynion i'w gwylio.

19. Peidiwch chwithau â sefyllian, ymlidiwch eich gelynion a'u goddiweddyd; peidiwch â gadael iddynt gyrraedd eu dinasoedd, gan fod yr ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi yn eich gafael.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 10