Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Duw'n Gorchymyn i Josua Oresgyn Canaan

1. Wedi marw Moses gwas yr ARGLWYDD, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua fab Nun, a fu'n gweini ar Moses,

2. “Y mae fy ngwas Moses wedi marw; yn awr, croesa di a'r holl bobl hyn yr Iorddonen yma i'r wlad yr wyf fi'n ei rhoi i blant Israel.

3. Rhof i chwi bob llecyn y bydd gwadn eich troed yn cerdded drosto, fel y dywedais wrth Moses.

4. Bydd eich terfyn yn ymestyn o'r anialwch a Lebanon hyd at yr afon fawr, afon Ewffrates, sef holl wlad yr Hethiaid, hyd at y Môr Mawr yn y gorllewin.

5. Ni saif neb o'th flaen tra byddi byw; byddaf gyda thi fel y bûm gyda Moses; ni'th adawaf na chefnu arnat.

6. Bydd yn gryf a dewr; oherwydd ti fydd yn rhoi i'r bobl hyn feddiant o'r wlad yr addewais ei rhoi i'w hynafiaid.

7. Yn unig bydd yn gryf a dewr iawn, a gofala weithredu yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iti. Paid â gwyro oddi wrthi i'r dde na'r chwith, er mwyn iti ffynnu ple bynnag yr ei.

8. Nid yw'r llyfr cyfraith hwn i adael dy enau; yr wyt i fyfyrio ynddo ddydd a nos, er mwyn iti ofalu gwneud y cyfan sy'n ysgrifenedig ynddo. Yna byddi'n llwyddo yn dy ffyrdd ac yn ffynnu.

9. Onid wyf wedi gorchymyn iti: bydd yn gryf a dewr? Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei.”

Josua'n Rhoi Gorchmynion i'r Bobl

10. Dywedodd Josua wrth swyddogion y bobl

11. am fynd trwy ganol y gwersyll, a gorchymyn i'r bobl, “Darparwch ichwi luniaeth, oherwydd o fewn tridiau byddwch yn croesi'r Iorddonen ar y ffordd i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n etifeddiaeth i chwi.”

12. Ac wrth Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse, dywedodd Josua,

13. “Cofiwch beth a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD ichwi, fod yr ARGLWYDD eich Duw yn rhoi diogelwch ichwi yma, ac yn rhoi'r wlad hon i chwi.

14. Caiff eich gwragedd, eich plant a'ch anifeiliaid aros yn y wlad a roddodd Moses ichwi y tu hwnt i'r Iorddonen; ond y mae pob milwr o'ch plith i fynd trosodd yn llu arfog o flaen eich perthnasau i'w cynorthwyo,

15. nes y bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau fel i chwi, a hwythau'n cael meddiant o'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi iddynt; yna cewch ddychwelyd a meddiannu'r wlad a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD yn etifeddiaeth i chwi i'r dwyrain o'r Iorddonen.”

16. Dyma'u hateb i Josua: “Fe wnawn beth bynnag yr wyt yn ei orchymyn inni, a mynd i ble bynnag yr anfoni ni;

17. ufuddhawn i ti ym mhopeth fel y gwnaethom i Moses, dim ond i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda thi fel y bu gyda Moses.

18. Rhodder i farwolaeth bwy bynnag fydd yn anufuddhau i'th air ac yn gwrthod gwrando ar unrhyw beth a orchmynni. Yn unig bydd yn gryf a dewr.”