Hen Destament

Testament Newydd

Joel 2:4-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Y maent yn ymddangos fel ceffylau,ac yn carlamu fel meirch rhyfel.

5. Fel torf o gerbydauneidiant ar bennau'r mynyddoedd;fel sŵn fflamau tân yn ysu sofl,fel byddin gref yn barod i ryfel.

6. Arswyda'r cenhedloedd rhagddynt,a gwelwa pob wyneb.

7. Rhuthrant fel milwyr,dringant y mur fel rhyfelwyr;cerdda pob un yn ei flaenheb wyro o'i reng.

8. Ni wthiant ar draws ei gilydd,dilyn pob un ei lwybr ei hun;er y saethau, ymosodantac ni ellir eu hatal.

9. Rhuthrant yn erbyn y ddinas,rhedant dros ei muriau,dringant i fyny i'r tai,ânt i mewn trwy'r ffenestri fel lladron.

10. Ysgwyd y ddaear o'u blaena chryna'r nefoedd.Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllua'r sêr yn atal eu goleuni.

11. Cwyd yr ARGLWYDD ei lef ar flaen ei fyddin;y mae ei lu yn fawr iawn,a'r un sy'n cyflawni ei air yn gryf.Oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD,ac ofnadwy, a phwy a'i deil?

12. “Yn awr,” medd yr ARGLWYDD,“dychwelwch ataf â'ch holl galon,ag ympryd, wylofain a galar.

13. Rhwygwch eich calon, nid eich dillad,a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw.”Graslon a thrugarog yw ef,araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb,ac yn edifar ganddo wneud niwed.

14. Pwy a ŵyr na thry a thosturio,a gadael bendith ar ei ôl—bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw?

15. Canwch utgorn yn Seion,cyhoeddwch ympryd,galwch gymanfa,

Darllenwch bennod gyflawn Joel 2