Hen Destament

Testament Newydd

Joel 2:21-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Paid ag ofni, ddaear;bydd lawen a gorfoledda,oherwydd fe wnaeth yr ARGLWYDD bethau mawrion.

22. Peidiwch ag ofni, anifeiliaid gwylltion,oherwydd bydd porfeydd yr anialwch yn wyrddlas;bydd y coed yn dwyn ffrwyth,a'r coed ffigys a'r gwinwydd yn rhoi eu cnwd yn helaeth.

23. Blant Seion, byddwch lawen,gorfoleddwch yn yr ARGLWYDD eich Duw;oherwydd rhydd ef ichwi law cynnar digonol;fe dywallt y glawogydd ichwi,y rhai cynnar a'r rhai diweddar fel o'r blaen.

24. Bydd y llawr dyrnu yn llawn o ŷda'r cafnau yn orlawn o win ac olew.

25. “Ad-dalaf ichwi am y blynyddoedda ddifaodd y locust ar ei dyfiant a'r locust mawr,y locust difaol a'r cyw locust,fy llu mawr, a anfonais i'ch mysg.”

26. “Fe fwytewch yn helaeth, nes eich digoni,a moliannu enw'r ARGLWYDD eich Duw,a wnaeth ryfeddod â chwi.Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.

27. Cewch wybod fy mod i yng nghanol Israel,ac mai myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Duw, ac nid neb arall.Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.”

28. “Ar ôl hyntywalltaf fy ysbryd ar bawb;bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo,bydd eich hynafgwyr yn gweld breuddwydion,a'ch gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau.

29. Hyd yn oed ar y gweision a'r morynionfe dywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.”

Darllenwch bennod gyflawn Joel 2