10. Ysgwyd y ddaear o'u blaena chryna'r nefoedd.Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllua'r sêr yn atal eu goleuni.
11. Cwyd yr ARGLWYDD ei lef ar flaen ei fyddin;y mae ei lu yn fawr iawn,a'r un sy'n cyflawni ei air yn gryf.Oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD,ac ofnadwy, a phwy a'i deil?
12. “Yn awr,” medd yr ARGLWYDD,“dychwelwch ataf â'ch holl galon,ag ympryd, wylofain a galar.
13. Rhwygwch eich calon, nid eich dillad,a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw.”Graslon a thrugarog yw ef,araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb,ac yn edifar ganddo wneud niwed.
14. Pwy a ŵyr na thry a thosturio,a gadael bendith ar ei ôl—bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw?
15. Canwch utgorn yn Seion,cyhoeddwch ympryd,galwch gymanfa,
16. cynullwch y bobl.Neilltuwch y gynulleidfa,cynullwch yr henuriaid,casglwch y plant,hyd yn oed y babanod.Doed y priodfab o'i ystafella'r briodferch o'i siambr.
17. Rhwng y porth a'r allorwyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD,a dweud, “Arbed dy bobl, O ARGLWYDD.Paid â gwneud dy etifeddiaeth yn warthac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd.Pam y dywedir ymysg y bobloedd,‘Ple mae eu Duw?’ ”
18. Yna aeth yr ARGLWYDD yn eiddigeddus dros ei dir,a thrugarhau wrth ei bobl.
19. Atebodd yr ARGLWYDD a dweud wrth ei bobl,“Yr wyf yn anfon i chwi rawn a gwin ac olewnes eich digoni;ac ni wnaf chwi eto'n warth ymysg y cenhedloedd.
20. Symudaf y gelyn o'r gogledd ymhell oddi wrthych,a'i yrru i dir sych a diffaith,â'i reng flaen at fôr y dwyraina'i reng ôl at fôr y gorllewin;bydd ei arogl drwg a'i ddrewdod yn codi,am iddo ymorchestu.”
21. Paid ag ofni, ddaear;bydd lawen a gorfoledda,oherwydd fe wnaeth yr ARGLWYDD bethau mawrion.