Hen Destament

Testament Newydd

Joel 2:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Canwch utgorn yn Seion,bloeddiwch ar fy mynydd sanctaidd.Cryned holl drigolion y wladam fod dydd yr ARGLWYDD yn dyfod;y mae yn agos—

2. dydd o dywyllwch ac o gaddug,dydd o gymylau ac o ddüwch.Fel cysgod yn ymdaenu dros y mynyddoedd,wele luoedd mawr a chryf;ni fu eu bath erioed,ac ni fydd ar eu hôl ychwaitham genedlaethau dirifedi.

3. Ysa tân o'u blaena llysg fflam ar eu hôl.Y mae'r wlad o'u blaen fel gardd Eden,ond ar eu hôl yn anialwch diffaith,ac ni ddianc dim rhagddo.

4. Y maent yn ymddangos fel ceffylau,ac yn carlamu fel meirch rhyfel.

5. Fel torf o gerbydauneidiant ar bennau'r mynyddoedd;fel sŵn fflamau tân yn ysu sofl,fel byddin gref yn barod i ryfel.

6. Arswyda'r cenhedloedd rhagddynt,a gwelwa pob wyneb.

7. Rhuthrant fel milwyr,dringant y mur fel rhyfelwyr;cerdda pob un yn ei flaenheb wyro o'i reng.

8. Ni wthiant ar draws ei gilydd,dilyn pob un ei lwybr ei hun;er y saethau, ymosodantac ni ellir eu hatal.

9. Rhuthrant yn erbyn y ddinas,rhedant dros ei muriau,dringant i fyny i'r tai,ânt i mewn trwy'r ffenestri fel lladron.

10. Ysgwyd y ddaear o'u blaena chryna'r nefoedd.Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllua'r sêr yn atal eu goleuni.

Darllenwch bennod gyflawn Joel 2