Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

Joel 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Locustiaid yn Ymosod

1. Gair yr ARGLWYDD, a ddaeth at Joel fab Pethuel.

2. Clywch hyn, henuriaid,gwrandewch, holl drigolion y wlad.A ddigwyddodd peth fel hyn yn eich dyddiau chwi,neu yn nyddiau eich hynafiaid?

3. Dywedwch am hyn wrth eich plant,a dyweded eich plant wrth eu plant,a'u plant hwythau wrth y genhedlaeth nesaf.

4. Yr hyn a adawodd y cyw locust,fe'i bwytaodd y locust sydd ar ei dyfiant;yr hyn a adawodd y locust ar ei dyfiant,fe'i bwytaodd y locust mawr;a'r hyn a adawodd y locust mawr,fe'i bwytaodd y locust difaol.

5. Deffrowch feddwon, ac wylwch;galarwch, bob yfwr gwin,am y gwin newydd a dorrwyd ymaith o'ch genau.

6. Oherwydd daeth cenedl i oresgyn fy nhir,a honno'n un gref a dirifedi;dannedd llew yw ei dannedd,ac y mae ganddi gilddannedd llewes.

7. Maluriodd fy ngwinwydd,a darnio fy nghoed ffigys;rhwygodd ymaith y rhisgl yn llwyr,ac aeth y cangau'n wynion.

8. Galara di fel gwyryf yn gwisgo sachliainam ddyweddi ei hieuenctid.

9. Pallodd y bwydoffrwm a'r diodoffrwm yn nhŷ'r ARGLWYDD;y mae'r offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, yn galaru.

10. Anrheithiwyd y tir,y mae'r ddaear yn galaru,oherwydd i'r grawn gael ei ddifa,ac i'r gwin ballu,ac i'r olew sychu.

11. Safwch mewn braw, amaethwyr,galarwch, winwyddwyr,am y gwenith a'r haidd;oherwydd difawyd cynhaeaf y maes.

12. Gwywodd y winwydden,a deifiwyd y ffigysbren.Y prennau pomgranad, y palmwydd a'r coed afalau—y mae holl brennau'r maes wedi gwywo.A diflannodd llawenydd o blith y bobl.

Galwad i Edifeirwch

13. Gwisgwch sachliain a galaru, offeiriaid,codwch gwynfan, weinidogion yr allor.Ewch i dreulio'r nos mewn sachliain,weinidogion fy Nuw,oherwydd i'r bwydoffrwm a'r diodoffrwmgael eu hatal o dŷ eich Duw.

14. Cyhoeddwch ympryd,galwch gynulliad.Chwi henuriaid, cynullwchholl drigolion y wladi dŷ'r ARGLWYDD eich Duw,a llefwch ar yr ARGLWYDD.

15. Och y fath ddiwrnod!Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.

16. Oni ddiflannodd y bwyd o flaen ein llygaid,a dedwyddwch a llawenydd o dŷ ein Duw?

17. Y mae'r had yn crebachuo dan y tywyrch,yr ysgubor wedi ei chwalua'r granar yn adfeilion,am i'r grawn fethu.

18. Y fath alar gan yr anifeiliaid!Y mae'r gyrroedd gwartheg mewn dryswcham eu bod heb borfa;ac y mae'r diadelloedd defaid yn darfod.

19. Arnat ti, ARGLWYDD, yr wyf yn llefain,oherwydd difaodd tân borfeydd yr anialwch,a llosgodd fflam holl goed y maes.

20. Y mae'r anifeiliaid gwylltion yn llefain arnat,oherwydd sychodd y nentydda difaodd tân borfeydd yr anialwch.