Hen Destament

Testament Newydd

Job 9:5-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Y mae'n symud mynyddoedd heb iddynt wybod,ac yn eu dymchwel yn ei lid.

6. Y mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle,a chryna'i cholofnau.

7. Y mae'n gorchymyn i'r haul beidio â chodi,ac yn gosod sêl ar y sêr.

8. Taenodd y nefoedd ei hunan,a sathrodd grib y môr.

9. Creodd yr Arth ac Orion,Pleiades a chylch Sêr y De.

10. Gwna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy,a rhyfeddodau dirifedi.

11. “Pan â heibio imi, nis gwelaf,a diflanna heb i mi ddirnad.

12. Os cipia, pwy a'i rhwystra?Pwy a ddywed wrtho, ‘Beth a wnei?’?

13. Ni thry Duw ei lid ymaith;ymgreinia cynorthwywyr Rahab wrth ei draed.

14. Pa faint llai yr atebwn i ef,a dadlau gair am air ag ef?

Darllenwch bennod gyflawn Job 9