Hen Destament

Testament Newydd

Job 8:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Pe byddai dy ddechreuad yn fychan,byddai dy ddiwedd yn fawr.

8. “Yn awr gofyn i'r oes a fu,ac ystyria'r hyn a ganfu'r hynafiaid.

9. Canys nid ydym ni ond er doe, ac anwybodus ŷm,a chysgod yw ein dyddiau ar y ddaear.

10. Oni fyddant hwy'n dy hyfforddi, a mynegi wrthyt,a rhoi atebion deallus?

11. A dyf brwyn lle nad oes cors?A ffynna hesg heb ddŵr?

12. Er eu bod yn ir a heb eu torri,eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion.

13. Felly y mae tynged yr holl rai sy'n anghofio Duw,ac y derfydd gobaith yr annuwiol.

Darllenwch bennod gyflawn Job 8