Hen Destament

Testament Newydd

Job 8:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna atebodd Bildad y Suhiad:

2. “Am ba hyd y lleferi fel hyn,a chymaint o ymffrost yn dy eiriau?

3. A yw Duw yn gwyrdroi barn?A yw'r Hollalluog yn gwyro cyfiawnder?

4. Pan bechodd dy feibion yn ei erbyn,fe'u trosglwyddodd i afael eu trosedd.

5. Os ceisi di Dduw yn ddyfal,ac ymbil ar yr Hollalluog,

6. ac os wyt yn bur ac uniawn,yna fe wylia ef drosot,a'th adfer i'th safle o gyfiawnder.

7. Pe byddai dy ddechreuad yn fychan,byddai dy ddiwedd yn fawr.

8. “Yn awr gofyn i'r oes a fu,ac ystyria'r hyn a ganfu'r hynafiaid.

9. Canys nid ydym ni ond er doe, ac anwybodus ŷm,a chysgod yw ein dyddiau ar y ddaear.

10. Oni fyddant hwy'n dy hyfforddi, a mynegi wrthyt,a rhoi atebion deallus?

11. A dyf brwyn lle nad oes cors?A ffynna hesg heb ddŵr?

12. Er eu bod yn ir a heb eu torri,eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion.

13. Felly y mae tynged yr holl rai sy'n anghofio Duw,ac y derfydd gobaith yr annuwiol.

14. Edau frau yw ei hyder,a'i ymffrost fel gwe'r pryf copyn.

15. Pwysa ar ei dŷ, ond ni saif;cydia ynddo, ond ni ddeil.

16. Bydd yn ir yn llygad yr haul,yn estyn ei frigau dros yr ardd;

Darllenwch bennod gyflawn Job 8