1. “Galw'n awr; a oes rhywun a'th etyb?At ba un o'r rhai sanctaidd y gelli droi?
2. Y mae dicter yn lladd yr ynfyd,a chenfigen yn dwyn angau i'r ffôl.
3. Gwelais yr ynfyd yn magu gwraidd,ond ar fyrder melltithiwyd ei drigfan;
4. ac aeth ei blant y tu hwnt i ymwared,wedi eu sathru yn y porth, heb neb i'w hachub.
5. Y mae'r newynog yn bwyta'i gynhaeaf ef,ac yn ei gymryd hyd yn oed o blith y drain;ac y mae'r sychedig yn dyheu am eu cyfoeth.
6. Canys nid o'r pridd y daw gofid,nac o'r ddaear orthrymder;
7. ond genir dynion i orthrymder,cyn sicred ag y tasga'r gwreichion.
8. “Ond myfi, ceisio Duw a wnawn i,a gosod fy achos o'i flaen ef,
9. yr un a gyflawna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy,rhyfeddodau dirifedi.
10. Ef sy'n tywallt y glaw ar y ddaear,a'r dyfroedd ar y meysydd.
11. Y mae'n codi'r rhai isel i fyny,a dyrchefir y galarwyr i ddiogelwch.
12. Y mae'n diddymu cynllwynion y cyfrwys;ni all eu dwylo wneud dim o fudd.
13. Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra,a buan y diflanna cynllun y dichellgar.
14. Brwydrant â thywyllwch hyd yn oed liw dydd,ac ymbalfalant ganol dydd fel yn y nos.
15. Ond gwared ef yr anghenus o'u gafael,a'r truan o afael y cryf.
16. Am hynny y mae gobaith i'r tlawd,ac anghyfiawnder yn cau ei safn.
17. “Dedwydd y sawl a gerydda Duw,ac na wrthyd ddisgyblaeth yr Hollalluog.
18. Ef a ddoluria, ac ef hefyd a rwyma'r dolur;ef a archolla, ond rhydd ei ddwylo feddyginiaeth.
19. Fe'th wared di rhag chwe chyfyngder;ac mewn saith, ni ddaw drwg arnat.
20. Fe'th achub di rhag marw mewn newyn,a rhag y cleddyf mewn brwydr.
21. Cei loches rhag ffrewyll y tafod,ac nid ofni'r dinistr pan ddaw.
22. Chwerddi ar ddinistr a newyn,ac ni'th ddychrynir gan fwystfil gwyllt.
23. Byddi mewn cynghrair â cherrig y tir,a bydd y bwystfil gwyllt mewn heddwch â thi.
24. Yna gweli fod dy babell yn ddiogel,a phan rifi dy ddiadell, ni bydd un ar goll.
25. Canfyddi hefyd mai niferus yw dy dylwyth,a'th epil fel gwellt y maes.
26. Ei i'r bedd mewn henaint teg,fel y cesglir ysgub yn ei phryd.
27. Chwiliasom hyn yn ddyfal, ac y mae'n wir;gwrando dithau arno, a deall drosot dy hun.”