Hen Destament

Testament Newydd

Job 42:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Meddi, ‘Pwy yw hwn sy'n cuddio deall â geiriau diwybod?’Yn wir, rwyf wedi mynegi pethau nad oeddwn yn eu deall,pethau rhyfeddol, tu hwnt i'm dirnad.

4. Yn awr gwrando, a gad i mi lefaru;fe holaf fi di, a chei dithau f'ateb.

5. Trwy glywed yn unig y gwyddwn amdanat,ond yn awr rwyf wedi dy weld â'm llygaid fy hun.

6. Am hynny rwyf yn fy ffieiddio fy hunan,ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.”

7. Ar ôl i'r ARGLWYDD lefaru'r geiriau hyn wrth Job, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eliffas y Temaniad, “Yr wyf yn ddig iawn wrthyt ti a'th ddau gyfaill am nad ydych wedi dweud yr hyn sy'n iawn amdanaf, fel y gwnaeth fy ngwas Job.

Darllenwch bennod gyflawn Job 42