Hen Destament

Testament Newydd

Job 42:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Hefyd yr oedd ganddo saith mab a thair merch.

14. Enwodd yr hynaf ohonynt yn Jemima, yr ail yn Cesia, a'r drydedd yn Cerenhapuch.

15. Nid oedd merched prydferthach na merched Job drwy'r holl wlad, a rhoes Job etifeddiaeth iddynt hwy yn ogystal ag i'w brodyr.

16. Bu Job fyw gant a deugain o flynyddoedd ar ôl hyn, a chafodd weld ei blant a phlant ei blant hyd at bedair cenhedlaeth.

17. Bu farw Job yn hen iawn, mewn gwth o oedran.

Darllenwch bennod gyflawn Job 42