Hen Destament

Testament Newydd

Job 41:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Pan symuda, fe ofna'r cryfion;ânt o'u pwyll oherwydd sŵn y rhwygo.

26. Os ceisir ei drywanu â'r cleddyf, ni lwyddir,nac ychwaith â'r waywffon, dagr, na'r bicell.

27. Y mae'n trafod haearn fel gwellt,a phres fel pren wedi pydru.

28. Ni all saeth wneud iddo ffoi,ac y mae'n trafod cerrig tafl fel us.

29. Fel sofl yr ystyria'r pastwn,ac y mae'n chwerthin pan chwibana'r bicell.

30. Oddi tano y mae fel darnau miniog o lestri,a gwna rychau fel og ar y llaid.

Darllenwch bennod gyflawn Job 41