Hen Destament

Testament Newydd

Job 41:20-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Daw mwg o'i ffroenau,fel o grochan yn berwi ar danllwyth.

21. Y mae ei anadl yn tanio cynnud,a daw fflam allan o'i geg.

22. Y mae cryfder yn ei wddf,ac arswyd yn rhedeg o'i flaen.

23. Y mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd,ac mor galed amdano fel na ellir eu symud.

24. Y mae ei galon yn gadarn fel craig,mor gadarn â maen melin.

25. Pan symuda, fe ofna'r cryfion;ânt o'u pwyll oherwydd sŵn y rhwygo.

26. Os ceisir ei drywanu â'r cleddyf, ni lwyddir,nac ychwaith â'r waywffon, dagr, na'r bicell.

27. Y mae'n trafod haearn fel gwellt,a phres fel pren wedi pydru.

28. Ni all saeth wneud iddo ffoi,ac y mae'n trafod cerrig tafl fel us.

29. Fel sofl yr ystyria'r pastwn,ac y mae'n chwerthin pan chwibana'r bicell.

30. Oddi tano y mae fel darnau miniog o lestri,a gwna rychau fel og ar y llaid.

31. Gwna i'r dyfnder ferwi fel crochan;gwna'r môr fel eli wedi ei gymysgu.

32. Gedy lwybr gwyn ar ei ôl,a gwna i'r dyfnder ymddangos yn benwyn.

33. Nid oes tebyg iddo ar y ddaear,creadur heb ofn dim arno.

34. Y mae'n edrych i lawr ar bopeth uchel;ef yw brenin yr holl anifeiliaid balch.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 41