Hen Destament

Testament Newydd

Job 41:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “A fedri di dynnu Lefiathanallan â bach,neu ddolennu rhaff am ei dafod?

2. A fedri di roi cortyn am ei drwyn,neu wthio bach i'w ên?

3. A wna ef ymbil yn daer arnat,neu siarad yn addfwyn â thi?

4. A wna gytundeb â thi,i'w gymryd yn was iti am byth?

5. A gei di chwarae ag ef fel ag aderyn,neu ei rwymo wrth dennyn i'th ferched?

6. A fydd masnachwyr yn bargeinio amdano,i'w rannu rhwng y gwerthwyr?

Darllenwch bennod gyflawn Job 41